Mae sesiynau dawns yn gyfle gwych i gyfuno gweithgareddau corfforol a chreadigol gyda rhannau eraill o’r cwricwlwm. Yn ôl ymchwil, gall symud ac ymarfer corff gynhyrchu celloedd ymennydd newydd yn ogystal â hwyluso dysgu. Mae gwrando ar ac ymateb i gyfarwyddiadau, cynnig awgrymiadau, archwilio a rannu syniadau a symud mewn gwagle rydych yn ei rannu gydag eraill yn gyfleuoedd i ddysgu ac i ddatblygu sgiliau cymdeithasol.
Mae gweithgareddau’n cael ei addasu er mwyn i bawb allu cymryd rhan. Gall plant symud mewn ffyrdd unigryw gan ddibynnu ar eu dychymyg, gallu a’u profiad. Mae symudiadau creadigol yn rhoi cyfle i blant symud mewn ffyrdd newydd ac mae’n eu helpu nhw i ddysgu bod modd cael mwy nac un ateb i gwestiwn, broblem neu dasg.
Rydym ni’n gweithio’n rheoliadd mewn ysgolion dros y tair Sir ac yn cynnig prosiectau sydd wedi eu dylunio’n arbennig i ymateb i’r cwricwlwm a datblygu sgiliau plant. Mae ein prosiectau yn archwilio gwahanol themau ac rydym ni hefyd yn ymateb i ofynion penodol ysgolion. Rydym yn defnyddio Dawns Greadigol i annog plant i ddefnyddio eu dychymyg, eu gwybodaeth a’u syniadau i greu eu dawnsfeydd eu hunain.
Dawns i Bawb, Uned 2, Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ, Cymru |