Amdanom


Gweledigaeth Dawns i Bawb -

  • Mae pawb yn gallu dawnsio
  • Trwy ymateb i anghenion ein cyfranogwyr, gallwn sichrau bod dawns yn hygyrch i bawb
  • Ein blaenoriaeth yw cynnig darpariaeth dawns Gymraeg neu ddwyieithog o safon uchel
  • Mae dawns yn adlewyrchu, yn llywio, yn siapio ac yn dylanwadu ar hunaniaeth ddiwylliannol Cymru, gan roi synnwyr o le i bobl a’r cyfle ar gyfer hunan-fynegiant di-eiriau
  • Mae ymateb, holi, herio ac arbrofi wrth wraidd ein gwaith
  • Mae partneriaethau â buddiannau cryf yn hanfodol i fwy o ddatblygiadau a chyflawniadau
  • Mae gan dawns y potensial i gael effaith bositif a chadarnhaol ar fywydau unigolion a chymunedau
  • Mae dawns yn gallu cyfrannu’n gadarnhaol at sawl agenda yn cynnwys iechyd a lles, cynhwysiad cymdeithasol, hunaniaeth ddiwylliannol ac economi ac adfwyio
  • Mae cymryd risg yn rhan bwysig o ddatblygu rhaglen gweithgaredd gyffrous, berthnasol, creadigol a gwreiddiol
  • Fel un o’r unig sefydliadau dawns gymunedol yng Nghymru sy’n gweithio’n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, mae gennym rôl a chyfrifoldeb i gynnal darpariaeth dawns gref a grymusol yn y Gymraeg, ac yn credu y gall dawns fod yn cyfrwng cadarnhaol i bobl archwilio a dathlu eu hiaith a hunaniaeth.

Y Tîm

 

CatherineDechreuais ddawnsio yn 11 oed gyda grwp dawns ieuenctid lleol ac yn 2000, enillais BA (Anrh) Dawns Cyfoes o Brifysgol De Montfort, Caerlyr.

Rwyf wedi gweithio yn y sector dawns proffesiynol ers dros 20 mlynedd fel Ymarferydd Dawns yn y Gymuned, Coreograffydd a fel Arweinydd Cwmni. Mae dawns gymunedol yn angerdd mawr i mi ac nid oes dim yn fwy diddorol na phleserus i mi na thystio pobl o bob oed a gallu yn mynegi eu hunain drwy symud. Rwy’n credu’n gryf y gall unrhyw un ddawnsio ac rydw i’n caru bod Dawns i Bawb yn cynnig y cyfleoedd i bobl ddarganfod hyn.

catherine@dawnsibawb.org
01286 685 220

Rwyf yn mwynhau cefnogi’r celfyddydau a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn flaenorol dwi wedi gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru am dros ugain mlynedd fel Swyddog Datblygu. Mae’n bleser ac yn wir fwynhad gennyf, weithio yn y sector celfyddydol, a braf ydi parhau cefnogi’r celfyddydau drwy weithio efo Dawns i Bawb

KamarCefais fy ngeni yn Jerwsalem, Israel a symudais i Gymru 5 mlynedd yn ôl. Dechreuais ddawnsio ar ddechrau'r cyfnod clo unwaith yr wythnos dros zoom gyda Dawns i Bawb ac roeddwn i wrth fy modd efo fo. Mae dawns yn gwneud i mi deimlo'n hapus, hyderus, egnïol a rhydd. Mae'n fy helpu i fynegi fy emosiynau ac yn helpu gyda fy iechyd meddwl. Mae dod yn rhan o'r tîm hwn, cwrdd â phobl newydd, parhau â'm cariad at ddawns a dysgu pethau newydd yn rhywbeth cyffrous iawn i mi. Rwy'n teimlo'n lwcus iawn i gael y cyfle hwn i fod yn gynorthwyydd a chael mentora 1-1 gydag ymarferydd datblygu dawns.

i’w cadarnhau

Lauren Rooney, Madeleine Burnham, Keren Meadows, Eirian Foster, Julie Dorgan, Lucy Hawken, Ellie Davies, Siri Wigdel

Kian Dempsey-Glindon, Seren Haf Davies

 

Gwybodaeth ychwanegol


Eddie Ladd - Cadeirydd
Meinir Wyn Evans - Is Gadeirydd
Sioned Rees-Jones
Dwynwen Llywelyn
Llyr ap Rhisiart

Mae’r ardal y mae Dawns i Bawb yn gweithio ynddi’n un o harddwch ac ysbryd eithriadol. Mae hi’n ardal eang iawn â’i rhan fwyaf yn wledig ac yn fynyddig. Mae sicrhau mynediad i’n sesiynau felly’n golygu llawer iawn o deithio.

Mae hi hefyd yr ardal â’r incwm cyfartalog lleiaf yn y DU, sy’n cael effaith mawr ar gynaliadwyedd Dawns i Bawb. Mae’r angen i sicrhau mynediad, a’r teithio sydd ymhlwm â hynny, yn golygu bod cost cynnal sesiynau’n uwch na mewn ardaloedd eraill, sydd yn her i ni. Ond rydyn ni isio gwneud mwy, a dyna pam y bu i ni sefydlu Cynllun Prentisiaeth a Rhaglen Arweinwyr Ifanc er mwyn hyfforddi mwy o bobl i weithio – gyda chefnogaeth Dawns i Bawb – yn eu cymunedau.

Mae gan ogledd Cymru hunaniaeth ranbarthol sy’n arbennig iddi hi ei hun. Iaith cyntaf yr ardal ydi’r Gymraeg ac mae’n hanfodol ein bod yn darparu sesiynau a gweithgareddau yn y Gymraeg.

Polisi Preifatrwydd Dawns i Bawb - cliciwch yma

 


Dawns i Bawb, Uned 2, Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ, Cymru
Ffôn: +44 (0) 1286 685 220 | E-bost: post@dawnsibawb.org