Newyddion

2024

Swydd: Rheolwr Cwmni (nodwch - mae Cymraeg llafar ac ysgrifenedig yn hanfodol ar gyfer y swydd)

Disgrifiad Swydd (PDF)


2023

Oriau Cau

Bydd Swyddfa Dawns i Bawb yn cau ar 19.12.23 ac yn ail-agor ar 03.01.24. Diolch yn fawr am eich holl gefnogaeth yn ystod y flwyddyn.


Sesiynau wythnosol ar gyfer 2024

poster llwybrau

poster ballet

danswyr y dre

Sioe Dawns i Bawb

Ar Ddydd Sadwrn 16 Rhagfyr 2023, roedd dros 120 o berfformwyr o bob oedran a gallu wedi perfformio yn Sioe Gaeaf Dawns i Bawb, ‘Synhwyrau’r Gaeaf.’ Roedd y cynulleidfa yn mwynhau perfformiadau gan Dawnswyr Dre, Cwmni Dawns Llwybrau, Mencap Mon, Bale i Oedolion, Ysgol Rhostryfan, Ysgol Pendalar, Brynseiont Newydd, Duets – Ysgol Llanllyfni a Dementia Actif Gwynedd.

  • Sioe DiB

NEWYDDION CYLLID

Ar Ddydd Mercher 27 Medi, cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru ganlyniadau Adolygiad Buddsoddi Portffolio Celfyddydau Cymru 2023.

Rydym yn falch iawn ein bod wedi llwyddo yn ein cais i barhau fel aelod portffolio ac edrychwn ymlaen at ein cydweithrediad â Chyngor y Celfyddydau yn y dyfodol.

Rydym yn gwybod bod penderfyniadau anodd iawn wedi'u gwneud fel rhan o'r adolygiad hwn ac rydym yn meddwl am gydweithwyr sefydliadau eraill nad oeddent yn llwyddiannus.

Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi ein cais llwyddiannus i Gronfa Ffyniant Cyffredin Gwynedd. Bydd y grant hwn yn ein galluogi i ddatblygu a chyflwyno Rhaglen Ddawns Gymunedol ar gyfer cymunedau Gwynedd dros y 14 mis nesaf.


FFIWS-FFIT – Sesiynau newydd i bawb 16+ oed

Mwynhewch dipyn o Salsa, Cha Cha Cha, Tango, Jazz a llawer mwy wrth i ni ‘ffiwsio’ yr holl arddulliau dawnsio gwahanol hyn gyda’i gilydd ar gyfer sesiwn ffitrwydd hwyliog, egniol ac addas i bawb:

Pob Dydd Sadwrn (yn dilyn tymor ysgol)
12.00-1.00. Galeri Caernarfon
£5 y sesiwn – sesiwn cyntaf am ddim

Eisiau dod ond dim gofal plant? Dewch a nhw gyda chi! Bydd WIFI, tudalennau lliwio a phensiliau ar gael yn y stiwdio. Mae croeso iddynt hefyd ymuno’r sesiwn.

  • 050423-ffiws-ffit-eng

 


DAWNSWYR DRE

Mae archebion ar gyfer tymor nesaf Dawnsyr Dre ar lein. Dilynwch y linc i archebu’ch lle: Galeri Caernarfon Cyf, Caernarfon, Gwynedd


2022

FFITRWYDD DAWNS I BOBL 16+ OED

Pob Nos Lun yn dilyn tymor ysgol
7.00-8.00
Galeri, Caernarfon
£5.00 y sesiwn
Angen archebu lle o flaen llaw pob wythnos trwy Galeri – www.galericaernarfon.com


DAWNSWYR DRE

Sesiynau dawns i blant a phobl ifanc gyda Perfformiad Gaeaf ar 3ydd Rhagfyr.
Sesiynau yn addas i bob gallu
Pob Dydd Sadwrn yn Galeri, Caernarfon yn dilyn tymor yr ysgol.
DAWNSWYR DRE 1 (4-6 oed) – 10.00-10.45
DAWNSWYR DRE 2 (7-10 oed) – 11.00-11.45
DAWNSWYR DRE 3 (11+ oed) - 12.00-12.45

£49.50 y tymor (10 Medi – 26 Tachwedd)
Mae rhaid archebu lle o flaen llaw trwy Galeri – www.galericaernarfon.com


TAITH YR EIRA Sioe Aeaf Dawns i Bawb 2022

Dewch ar daith yr eira gyda dawnswyr Dawns i Bawb!
Sioe ryngweithiol sy'n addas i'r teulu cyfan gyda chymysgedd o berfformiad ffilm gan ein dawnswyr cymunedol a pherfformiad byw gan staff Dawns i Bawb.
Dydd Sadwrn, 3ydd Rhagfyr
Studio 2, Galeri, Caernarfon
Tocynnau: £5.00 oedolyn / £3.50 plentyn (dim ond lle i 50 o bobl mewn perfformiad)
Ar werth trwy wefan Galeri – www.galericaernarfon.com
(Hefyd i gynnwys poster Taith yr Eira)

  • 100822-taith-yr-eira

CYMRU: NI – Sioe Newydd i gartrefi preswyl mewn partneriaeth a Chanolfan Ddiwylliant Conwy

Mae Dawns i Bawb wedi derbyn nawdd gan Ganolfan Ddiwylliant Conwy i greu a theithio sioe rhyngweithiol newydd o’r enw ‘Cymru: Ni’ i gartrefi preswyl ledled Conwy. Mae’r gwaith yn rhan o’r prosiect ‘Dance Well’ sy’n datblygu gweithgareddau dawns i wella iechyd a lles ein cymunedau


NEGES GAN EMMA QUAECK – RHEOLWR DEMENTIA ACTIF GWYNEDD

Mae tîm Dementia Actif Gwynedd yn falch o gyflwyno ein hail ffilm o berfformiad dawns. Enw’r ddawns yw “Dathliad” ac fe’i perfformir i gerddoriaeth ‘Summertime’ – Frances Faye.
Unwaith eto, fe grëwyd y ffilm mewn cydweithrediad â Dawns i Bawb ac mae’r ffilm yn serennu pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr, disgyblion Ysgol Glan y Môr, cyd-aelodau a staff. Mae’r fideo yn ddathliad o’r ffaith ein bod yn cael dod at ein gilydd eto yn dilyn y pan demig, ac ar ben hynny, y gallwn ddal i symud o hyd!

https://youtu.be/nSgjDLv619g


Swydd Newydd – Ymarferwr Datblygu Dawns

nodwch – mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd ond rydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr Cymraeg sydd wedi ymrwymo i ddatblygu eu sgiliau Iaith Gymraeg

Manylion Swydd:

Teitl: Ymarferydd Datblygu Dawns

Oriau: Rhan Amser – 18 awr yr wythnos (yn cynnwys gweithio gyda’r nos ac ar Sadyrnau)

Cyfnod: Cytundeb Blwyddyn

Cyflog: £26,000 pro rata (£13,000)

Ardal: Gwynedd, Conwy ac Ynys Mon gyda prif swyddfa yn Galeri, Caernarfon

Dyddiad Dechrau: Cyn gynted â phosibl

Dyddiad Cau am Ymgeisio: 22.04.22

Hysbysiad Rhestr Fer: 25.04.22

Cyfweliadau a Clyweliadau 4 a 5 Mai

Darllen mwy am swydd Ymarferydd Datblygu Dawns - cliciwch yma


Sesiynau i blant ac oedolion yn dechrau ym mis Ionawr 2022

Rydym yn falch i gyhoeddi sesiynau wyneb i wyneb yn Galeri (Caernarfon) yn dechrau ym mis Ionawr. Oherwydd y sefyllfa Covid barhaus, ni fyddwn yn newid ein cyfyngiadau heblaw am godi niferoedd pob grŵp o 12 o bobl i 15 o bobl. Byddwn yn adolygu hyn ar gyfer hanner tymor Chwefror. Mae'n hanfodol i archebu lle o flaen llaw drwy wefan Galeri. Diolch!

  • 031221-ffitrwydd-dawns
  • 031221-dawnswyr-dre-ionawr

Sioe Nadolig Dawns i Bawb 2021

Mae Dawns i Bawb yn falch i gyhoeddi ein Sioe Nadolig 2021, ‘Golau Nadolig.’ Eleni mae dawnswyr o bob oedran a gallu yn cyflwyno perfformio i chi gyda neges o obaith, mwynhad a llawenydd. Cyfle i chi fwynhau’r sioe gyda’ch teulu yn eich cartref eich hun.
Mae posib archebu tocyn/linc am £2 hyd at 17.00 ar Mercher - 08.12.21

Bydd Dawns i Bawb yn ebostio linc i’r cyfeiriad ebost sydd wedi archebu’r tocynnau ar ddydd Gwener, 10.12.21. Bydd posib gwylio'r sioe o 16:30 ymlaen. Fel cwmni sydd heb dderbyn incwm ers 20 mis, mae Dawns i Bawb yn gofyn yn garedig i neb rannu’r ddolen.

  • 031221-dolig

Neges gan Gyfarwyddwr Artistig Dawns i Bawb

Wrth i ni gyrraedd diwedd 2021, hoffwn fyfyrio ar brofiadau'r 21 mis diwethaf. Mae wedi bod yn gyfnod heriol i Dawns i Bawb gyda cholled sylweddol o waith a cholli incwm. Popeth sy'n bwysig i'n gwaith – dawnsio gydag eraill a dod â phobl at ei gilydd fu'r pethau yr ydym wedi gorfod osgoi eu gwneud. Ond un peth y mae'r Celfyddydau'n dda iawn am ei wneud yw ymateb ac addasu, a dyna a wnaethom. Er mai dim ond ychydig o brosiectau yr ydym wedi gallu eu rhedeg wyneb yn wyneb, mae'r dawnsio wedi parhau:

  • Sesiynau Zoom ac wyneb i wyneb ar gyfer plant a phobl ifanc
  • Sesiynau Ffitrwydd Dawns i oedolion ar Zoom ac wyneb i wyneb
  • Wedi creu Pecyn Gofal Dawns i ysgolion i gefnogi plant gyda’u hiechyd meddwl a'r heriau y maent wedi'u hwynebu eleni
  • Cynnal sesiynau wythnosol a chreu perfformiad ar ffilm gyda’n Cwmni Dawns Gynhwysol fel rhan o brosiect ’11 Million Reasons to Dance’ mewn partneriaeth a People Dancing a’r Amgueddfa Llechi Llanberis
  • Sesiynau dawns reolaidd dros Zoom gyda Dementia Actif Gwynedd, Whizkidz a Gofalwyr Cymru
  • Parhau i weithio gyda Chartrefi Gofal ar Zoom a thrwy sesiynau wedi’i recordio
  • Prosiectau ‘Haf o Hwyl’ dros Wynedd, Conwy ac Ynys Môn
  • Parhau gyda phrosiect DUETS mewn partneriaeth a Ballet Cymru ag Ysgol Llanllyfni

Er nad oeddem yn gallu cyflwyno ein Sioe Nadolig yn y theatr am yr ail flwyddyn, mae ein grwpiau wedi gweithio gyda'i gilydd i greu perfformiad hyfryd ar ffilm o'r enw 'Golau Nadolig' gyda negeseuon o oleuni a gobaith. Mae'r perfformiad ar gael i'w brynu o wefan Galeri hyd at y 9fed o Ragfyr. Yn olaf ar ran tîm Dawns i Bawb, dymunaf Nadolig Llawen i chi; cadw'n ddiogel, ac edrych ymlaen at eich gweld yn 2022.

Catherine Young
Cyfarwyddwr Artistig
Dawns i Bawb


Sesiynau Dawns i blant a phobl ifanc

Pob Dydd Llyn a Sadwrn

Cychwyn 6/9/2021

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y Sesiynau Dawns i blant a phobl ifanc

 

  • 270821-dawns-i-bobl-ifanc

Ffitrwydd Dawns

Sesiynau i bobl 16+

Pob Nos Lun 7:00 - 8:00 p.m.

Cychwyn 6/9/2021

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am sesiynau ffitrwydd Dawns

  • 270821-dawns-ffitrwydd

 

Dawns i Bawb, Uned 2, Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ, Cymru
Ffôn: +44 (0) 1286 685 220 | E-bost: post@dawnsibawb.org