Dawns, Iechyd a Lles


Mae Dawns i Bawb yn cynnal rhaglen helaeth o sesiynau a phrosiectau sy’n rhoi ffocws ar wella iechyd a lles ein cymunedau. Mae dawns yn gallu bod o gymorth i bob oedran i gadw’n heini ac iach, yn lleihau straen, datblygu hunan hyder a hunan ymwybyddiaeth, helpu gyda swildod a dysgu sut i ryngweithio gyda phobl eraill. Mae hyn yn ei thro yn gwella ansawdd bywyd trigolion ac yn rhan annatod o’r broses adfywio.

Mae Rhaglen Dawns, Iechyd a Lles Dawns i Bawb yn cynnwys y ganlynol:

  • Sesiynau symud rheolaidd i bobl sy’n byw â Dementia mewn cartrefi preswyl dros Wynedd, Conwy ac Ynys Môn
  • Sesiynau symud dros Wynedd, Conwy ac Ynys Môn mewn partneriaeth â grwpiau sy’n cefnogi pobl sy’n byw â Parkinsons
  • Cynnal perfformiad dawns ryngweithiol sydd wedi cael ei chreu yn benodol ar gyfer pobl sy’n byw â Dementia ac yn teithio cartrefi preswyl ledled y tair sir
  • Prosiectau arbennig gyda sefydliadau lleol gyda ffocws ar ‘Presgripsiwn Cymdeithasol’
Dawns i Bawb, Uned 2, Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ, Cymru
Ffôn: +44 (0) 1286 685 220 | E-bost: post@dawnsibawb.org