Plant a Phobl Ifanc


Y lle perffaith i fod yn ddyfeisgar, dysgu symudiadau, dysgu technegau a sgiliau dawns ond yn fwyaf pwysig, rhywle lle gewch chi fod yn greadigol a chreu eich symudiadau eich hun a phrofi drwy hynny, boddhad perchnogaeth a llwyddiant. Mae Dawns i Bawb yn ysgogi creadigrwydd pawb sy’n cymryd rhan , ac yn trefnu bod hynny mewn awyrgylch cyfeillgar a chynhwysol.

Sesiynau stori, dawnsio a chanu i blant bach 0-3 oed a’u rhieni.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu i archebu sesiynau ar gyfer eich grŵp

imageRydym yn cynnal 2 sesiwn wythnosol yn Galeri Caernarfon. Mae sesiynau yn dilyn tymor yr ysgol ac yn gyfle i blant dysgu sgiliau dawns, bod yn greadigol a chymdeithasu. Mae grwpiau yn cael cyfleoedd i berfformio yn ystod y flwyddyn yn cynnwys Sioe Flynyddol Dawns i Bawb. Cysylltwch â ni am fanylion y sesiynau.

  • 031221-dawnswyr-dre-ionawr

 


Dawns i Bawb, Uned 2, Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ, Cymru
Ffôn: +44 (0) 1286 685 220 | E-bost: post@dawnsibawb.org